PET(4) SAR 15
Y Pwyllgor Deisebau
Ymateb gan Hefin Jones
Hoffwn nodi ymateb byr ar gyfer yr ymgynghoriad ar bresenoldeb y fyddin Brydeinig yn ein hysgolion.
Ma’n gywilyddus fod y Fyddin Brydeinig yn propagandeiddio a chyflyrru plant yn ein hysgolion. Mae’n warth ar lywodraeth Cymru fod y wlad yn un o’r prin rai’n y byd sy’n gadael i hyn ddigwydd. Wedi clywed mai ond yn Lloegr a’r Alban mae hyn yn digwydd fel arall drwy Ewrop.
Mae un o bob deg carcharor ym Mhrydain yn gyn aelod o’r Fyddin Brydeinig. Dylai'r ffaith yna'n unig fod yn ddigon i weld fod hyn yn anfoesol. Roedd y sioe diweddar lle ceision gael 4000 o blant ysgol Gogledd Cymru i chwarae efo arfau yn dactegau cyflyrru o'r safon gwaethaf.
Nid yw plant a’r arfogaeth a’r crebwyll i fedru dewis yn gall. Pam fod yr Hitler Youth yn anghywir a hyn yn gywir ga i ofyn? Oherwydd fod 'ni' ar yr ochr gyfiawn? Siwr o hynny? Wrth gwrs, fel Llywodraeth Lafur nid oes dim problem ganddoch i yrru plant Cymru i ymladd dros fympwy imperialaidd celwyddog eich meistri'n Llundain felly caiff plant Caernarfon ddod adra mewn deg mlynedd o ba bynnag wlad mae America'n bigo arno nesaf a mynd syth i'r carchar newydd fydd os gwireddir y cynllun o leiaf yn agos at eu cartref.
Hefin Jones